5. A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.
6. A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.
7. Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r synagog.
8. A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw:
10. Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.
11. Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.
12. A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawdle,
13. Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf.
14. Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi:
15. Eithr os y cwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, a'r ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain; canys ni fyddaf fi farnwr am y pethau hyn.
16. Ac efe a'u gyrrodd hwynt oddi wrth y frawdle.
17. A'r holl Roegwyr a gymerasant Sosthenes yr archsynagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle. Ac nid oedd Galio yn gofalu am ddim o'r pethau hynny.
18. Eithr Paul, wedi aros eto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymaith i Syria, a chydag ef Priscila ac Acwila; gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea: canys yr oedd arno adduned.
19. Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a'u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i'r synagog, ac a ymresymodd â'r Iddewon.
20. A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe: