Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 18:2-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac wedi iddo gael rhyw Iddew a'i enw Acwila, un o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, a'i wraig Priscila, (am orchymyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain,) efe a ddaeth atynt.

3. Ac, oherwydd ei fod o'r un gelfyddyd, efe a arhoes gyda hwynt, ac a weithiodd; (canys gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.)

4. Ac efe a ymresymodd yn y synagog bob Saboth, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.

5. A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.

6. A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a ysgydwodd ei ddillad, ac a ddywedodd wrthynt, Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain; glân ydwyf fi: o hyn allan mi a af at y Cenhedloedd.

7. Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ un a'i enw Jwstus, un oedd yn addoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r synagog.

8. A Chrispus yr archsynagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dŷ: a llawer o'r Corinthiaid, wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.

9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nos, Nac ofna; eithr llefara, ac na thaw:

10. Canys yr wyf fi gyda thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: oherwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.

11. Ac efe a arhoes yno flwyddyn a chwe mis, yn dysgu gair Duw yn eu plith hwynt.

12. A phan oedd Galio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawdle,

13. Gan ddywedyd, Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y ddeddf.

14. Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Galio wrth yr Iddewon, Pe buasai gam, neu ddrwg weithred, O Iddewon, wrth reswm myfi a gyd‐ddygaswn â chwi:

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 18