19. Ac efe a ddaeth i Effesus, ac a'u gadawodd hwynt yno; eithr efe a aeth i'r synagog, ac a ymresymodd â'r Iddewon.
20. A phan ddymunasant arno aros gyda hwynt dros amser hwy, ni chaniataodd efe:
21. Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae'n anghenraid i mi gadw'r ŵyl sydd yn dyfod yn Jerwsalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl atoch chwi drachefn. Ac efe a aeth ymaith o Effesus.
22. Ac wedi iddo ddyfod i waered i Cesarea, efe a aeth i fyny ac a gyfarchodd yr eglwys, ac a ddaeth i waered i Antiochia.