Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 17:18-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. A rhai o'r philosophyddion o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai'r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu'r Iesu, a'r atgyfodiad, iddynt.

19. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw'r ddysg newydd hon, a draethir gennyt?

20. Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai'r pethau hyn fod.

21. (A'r holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)

22. Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol:

23. Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.

24. Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo:

25. Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.

26. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt;

27. Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a'i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom:

28. Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.

29. Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.

30. A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau:

31. Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.

32. A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth hwn.

33. Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.

34. Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 17