Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 17:14-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i'r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.

15. A chyfarwyddwyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.

16. A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.

17. Oherwydd hynny yr ymresymodd efe yn y synagog â'r Iddewon, ac â'r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.

18. A rhai o'r philosophyddion o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant, Beth a fynnai'r siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, Tebyg yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithr: am ei fod yn pregethu'r Iesu, a'r atgyfodiad, iddynt.

19. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd, A allwn ni gael gwybod beth yw'r ddysg newydd hon, a draethir gennyt?

20. Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clustiau ni: am hynny ni a fynnem wybod beth a allai'r pethau hyn fod.

21. (A'r holl Atheniaid, a'r dieithriaid y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd neu i glywed rhyw newydd.)

22. Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol:

23. Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.

24. Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo:

25. Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.

26. Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt;

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 17