Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 17:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwedi iddynt dramwy trwy Amffipolis ac Apolonia, hwy a ddaethant i Thesalonica, lle yr oedd synagog i'r Iddewon.

2. A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn atynt, a thros dri Saboth a ymresymodd â hwynt allan o'r ysgrythurau,

3. Gan egluro a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw'r Crist Iesu, yr hwn yr wyf fi yn ei bregethu i chwi.

4. A rhai ohonynt a gredasant, ac a ymwasgasant â Phaul a Silas, ac o'r Groegwyr crefyddol liaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.

5. Eithr yr Iddewon y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymerasant atynt ryw ddynion drwg o grwydriaid; ac wedi casglu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant ar dŷ Jason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.

6. A phan na chawsant hwynt, hwy a lusgasant Jason, a rhai o'r brodyr, at benaethiaid y ddinas, gan lefain, Y rhai sydd yn aflonyddu'r byd, y rhai hynny a ddaethant yma hefyd;

7. Y rhai a dderbyniodd Jason: ac y mae'r rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Cesar, gan ddywedyd fod brenin arall, sef Iesu.

8. A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwyr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn.

9. Ac wedi iddynt gael sicrwydd gan Jason a'r lleill, hwy a'u gollyngasant hwynt ymaith.

10. A'r brodyr yn ebrwydd o hyd nos a anfonasant Paul a Silas i Berea: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i synagog yr Iddewon.

11. Y rhai hyn oedd foneddigeiddiach na'r rhai oedd yn Thesalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyda phob parodrwydd meddwl, gan chwilio beunydd yr ysgrythurau, a oedd y pethau hyn felly.

12. Felly llawer ohonynt a gredasant, ac o'r Groegesau parchedig, ac o wŷr, nid ychydig.

13. A phan wybu'r Iddewon o Thesalonica fod gair Duw yn ei bregethu gan Paul yn Berea hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi'r dyrfa.

14. Ac yna yn ebrwydd y brodyr a anfonasant Paul ymaith, i fyned megis i'r môr: ond Silas a Thimotheus a arosasant yno.

15. A chyfarwyddwyr Paul a'i dygasant ef hyd Athen; ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Thimotheus, ar iddynt ddyfod ato ar ffrwst, hwy a aethant ymaith.

16. A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 17