Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 16:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nos: Rhyw ŵr o Facedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred drosodd i Facedonia, a chymorth ni.

10. A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Facedonia; gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni i efengylu iddynt hwy.

11. Am hynny, wedi myned ymaith o Droas, ni a gyrchasom yn union i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis;

12. Ac oddi yno i Philipi, yr hon sydd brifddinas o barth o Facedonia, dinas rydd: ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai.

13. Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.

14. A rhyw wraig a'i henw Lydia, un yn gwerthu porffor, o ddinas y Thyatiriaid, yr hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.

15. Ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, Os barnasoch fy mod i'n ffyddlon i'r Arglwydd, deuwch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymhellodd ni.

16. A digwyddodd, a ni'n myned i weddïo, i ryw lances, yr hon oedd ganddi ysbryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistriaid wrth ddywedyd dewiniaeth.

17. Hon a ddilynodd Paul a ninnau, ac a lefodd, gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iachawdwriaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 16