Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 15:5-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

6. A'r apostolion a'r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma.

7. Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu.

8. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau:

9. Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.

10. Yn awr gan hynny paham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau'r disgyblion, yr hon ni allai ein tadau ni na ninnau ei dwyn?

11. Eithr trwy ras yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwedig, yr un modd â hwythau.

12. A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13. Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi.

14. Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw.

15. Ac â hyn y cytuna geiriau'r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig,

16. Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eilchwyl:

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 15