Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 15:37-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A Barnabas a gynghorodd gymryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.

38. Ond ni welai Paul yn addas gymryd hwnnw gyda hwynt, yr hwn a dynasai oddi wrthynt o Pamffylia, ac nid aethai gyda hwynt i'r gwaith.

39. A bu gymaint cynnwrf rhyngddynt, fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd; ac y cymerth Barnabas Marc gydag ef, ac y mordwyodd i Cyprus:

40. Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymaith, wedi ei orchymyn i ras Duw gan y brodyr.

41. Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau'r eglwysi.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 15