22. Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr:
23. A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a'r henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch:
24. Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw'r ddeddf; i'r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn:
25. Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gytûn, anfon gwŷr etholedig atoch, gyda'n hanwylyd Barnabas a Phaul;
26. Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist.
27. Ni a anfonasom gan hynny Jwdas a Silas; a hwythau ar air a fynegant i chwi yr un pethau.
28. Canys gwelwyd yn dda gan yr Ysbryd Glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg na'r pethau angenrheidiol hyn;
29. Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eilunod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb: oddi wrth yr hyn bethau os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.
30. Felly wedi eu gollwng hwynt ymaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.