Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 15:16-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eilchwyl:

17. Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio'r Arglwydd, ac i'r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.

18. Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.

19. Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o'r Cenhedloedd a droesant at Dduw:

20. Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed.

21. Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fod yn ei ddarllen yn y synagogau bob Saboth.

22. Yna y gwelwyd yn dda gan yr apostolion a'r henuriaid, ynghyd â'r holl eglwys, anfon gwŷr etholedig ohonynt eu hunain, i Antiochia, gyda Phaul a Barnabas; sef Jwdas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ymhlith y brodyr:

23. A hwy a ysgrifenasant gyda hwynt fel hyn; Yr apostolion, a'r henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sydd o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch:

24. Yn gymaint â chlywed ohonom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich trallodi chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd fod yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw'r ddeddf; i'r rhai ni roesem ni gyfryw orchymyn:

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 15