Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 15:12-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul, yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethai Duw ymhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwy.

13. Ac wedi iddynt ddistewi, atebodd Iago, gan ddywedyd, Ha wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi.

14. Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymryd o'r Cenhedloedd bobl i'w enw.

15. Ac â hyn y cytuna geiriau'r proffwydi; megis y mae yn ysgrifenedig,

16. Ar ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio; a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eilchwyl:

17. Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion geisio'r Arglwydd, ac i'r holl Genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.

18. Hysbys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.

19. Oherwydd paham fy marn i yw, na flinom y rhai o'r Cenhedloedd a droesant at Dduw:

20. Eithr ysgrifennu ohonom ni atynt, ar ymgadw ohonynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 15