Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 15:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arhai wedi dyfod i waered o Jwdea, a ddysgasant y brodyr, gan ddywedyd, Onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig.

2. A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill ohonynt, i fyny i Jerwsalem, at yr apostolion a'r henuriaid, ynghylch y cwestiwn yma.

3. Ac wedi eu hebrwng gan yr eglwys, hwy a dramwyasant trwy Phenice a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd: a hwy a barasant lawenydd mawr i'r brodyr oll.

4. Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt.

5. Eithr cyfododd rhai o sect y Phariseaid y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, Mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.

6. A'r apostolion a'r henuriaid a ddaethant ynghyd i edrych am y mater yma.

7. Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu.

8. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau:

9. Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 15