26. Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i'r gorchwyl a gyflawnasant.
27. Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
28. Ac yno yr arosasant hwy dros hir o amser gyda'r disgyblion.