12. A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf.
13. Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu.
14. A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,
15. A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:
16. Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd i'r holl genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.
17. Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.
18. Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr ataliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19. A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.
20. Ac fel yr oedd y disgyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.
21. Ac wedi iddynt bregethu'r efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22. Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23. Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a'u gorchmynasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.