Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 14:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A ddywedodd â llef uchel, Saf ar dy draed yn union. Ac efe a neidiodd i fyny, ac a rodiodd.

11. A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom.

12. A hwy a alwasant Barnabas yn Jwpiter; a Phaul yn Mercurius, oblegid efe oedd yr ymadroddwr pennaf.

13. Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu.

14. A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,

15. A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 14