Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 12:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ynghylch y pryd hwnnw yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo i ddrygu rhai o'r eglwys.

2. Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â'r cleddyf.

3. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau'r bara croyw ydoedd hi.)

4. Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i'w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl.

5. Felly Pedr a gadwyd yn y carchar: eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr eglwys at Dduw drosto ef.

6. A phan oedd Herod â'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.

7. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.

8. A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi.

9. Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.

10. Ac wedi myned ohonynt heblaw y gyntaf a'r ail wyliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth haearn yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd un heol; ac yn ebrwydd yr angel a aeth ymaith oddi wrtho.

11. A Phedr, wedi dyfod ato ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei angel, a'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwyliad pobl yr Iddewon.

12. Ac wedi iddo gymryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair mam Ioan, yr hwn oedd â'i gyfenw Marc, lle yr oedd llawer wedi ymgasglu, ac yn gweddïo.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 12