Penodau

  1. 1

Hen Destament

Testament Newydd

3 Ioan 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd.

2. Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo.

3. Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.

4. Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.

5. Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;

6. Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.

7. Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd.

8. Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i'r gwirionedd.

9. Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom.

10. Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i'n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a'r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.

11. Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.

12. Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir.

13. Yr oedd gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti:

14. Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.

15. Tangnefedd i ti. Y mae'r cyfeillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.