Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 4:7-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orffennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd.

8. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn unig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.

9. Bydd ddyfal i ddyfod ataf yn ebrwydd:

10. Canys Demas a'm gadawodd, gan garu'r byd presennol, ac a aeth ymaith i Thesalonica; Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.

11. Luc yn unig sydd gyda mi. Cymer Marc, a dwg gyda thi: canys buddiol yw efe i mi i'r weinidogaeth.

12. Tychicus hefyd a ddanfonais i Effesus.

13. Y cochl a adewais i yn Nhroas gyda Carpus, pan ddelych, dwg gyda thi, a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn.

14. Alexander y gof copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd:

15. Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.

16. Yn fy ateb cyntaf ni safodd neb gyda mi, eithr pawb a'm gadawsant: mi a archaf ar Dduw nas cyfrifer iddynt.

17. Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd; fel trwof fi y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.

18. A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pob gweithred ddrwg, ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

19. Annerch Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.

20. Erastus a arhosodd yng Nghorinth: ond Troffimus a adewais ym Miletus yn glaf.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 4