Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 2:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ond halogedig ofer-sain, gochel, canys cynyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.

17. A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;

18. Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.

19. Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo'r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.

20. Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; a rhai i barch, a rhai i amarch.

21. Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.

22. Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.

23. Eithr gochel ynfyd ac annysgedig gwestiynau, gan wybod eu bod yn magu ymrysonau.

24. Ac ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson: ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar,

25. Mewn addfwynder yn dysgu'r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd;

26. A bod iddynt ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 2