1. Tydi gan hynny, fy mab, ymnertha yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2. A'r pethau a glywaist gennyf trwy lawer o dystion, traddoda'r rhai hynny i ddynion ffyddlon, y rhai a fyddant gymwys i ddysgu eraill hefyd.
3. Tydi gan hynny goddef gystudd, megis milwr da i Iesu Grist.
4. Nid yw neb a'r sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau'r bywyd hwn; fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn filwr.
5. Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.
6. Y llafurwr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.
7. Ystyria'r hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a'r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhob peth.
8. Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i:
9. Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir.