Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 1:7-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Canys ni roddes Duw i ni ysbryd ofn; ond ysbryd nerth, a chariad, a phwyll.

8. Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â'r efengyl, yn ôl nerth Duw;

9. Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a'i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau'r byd,

10. Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy'r efengyl:

11. I'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro'r Cenhedloedd.

12. Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw'r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.

13. Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.

14. Y peth da a rodded i'w gadw atat, cadw trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

15. Ti a wyddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sydd yn Asia droi oddi wrthyf fi; o'r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.

16. Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesifforus; canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i:

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 1