Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 1:10-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy'r efengyl:

11. I'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro'r Cenhedloedd.

12. Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw'r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.

13. Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.

14. Y peth da a rodded i'w gadw atat, cadw trwy'r Ysbryd Glân, yr hwn sydd yn preswylio ynom.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 1