Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 3:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar.

12. Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.

13. A chwithau, frodyr, na ddiffygiwch yn gwneuthur daioni.

14. Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.

15. Er hynny na chymerwch ef megis gelyn, eithr cynghorwch ef fel brawd.

16. Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.

17. Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.

18. Gras ein Harglwydd Iesu Grist gyda chwi oll. Amen.Yr ail at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 3