Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 3:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y proffwydi sanctaidd, a'n gorchymyn ninnau, apostolion yr Arglwydd a'r Iachawdwr:

3. Gan wybod hyn yn gyntaf, y daw yn y dyddiau diwethaf watwarwyr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain.

4. Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pob peth yn parhau fel yr oeddynt o ddechreuad y creadigaeth.

5. Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwirfodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ys talm, a'r ddaear yn cydsefyll o'r dwfr a thrwy'r dwfr.

6. Oherwydd paham y byd a oedd y pryd hwnnw, wedi ei orchuddio â dwfr, a ddifethwyd.

7. Eithr y nefoedd a'r ddaear sydd yr awr hon, ydynt trwy'r un gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.

8. Eithr yr un peth hwn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fod un dydd gyda'r Arglwydd megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.

9. Nid ydyw'r Arglwydd yn oedi ei addewid, fel y mae rhai yn cyfrif oed; ond hirymarhous yw efe tuag atom ni, heb ewyllysio bod neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.

10. Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos; yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gyda thwrf, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant, a'r ddaear a'r gwaith a fyddo ynddi a losgir.

11. A chan fod yn rhaid i hyn i gyd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 3