Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Eithr bu gau broffwydi hefyd ymhlith y bobl, megis ag y bydd gau athrawon yn eich plith chwithau; y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresïau dinistriol, a chan wadu'r Arglwydd yr hwn a'u prynodd hwynt, ydynt yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.

2. A llawer a ganlynant eu distryw hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd.

3. Ac mewn cybydd-dod, trwy chwedlau gwneuthur, y gwnânt farsiandïaeth ohonoch: barnedigaeth y rhai er ys talm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn hepian.

4. Canys onid arbedodd Duw yr angylion a bechasent, eithr eu taflu hwynt i uffern, a'u rhoddi i gadwynau tywyllwch, i'w cadw i farnedigaeth;

5. Ac onid arbedodd efe yr hen fyd, eithr Noe, pregethwr cyfiawnder, a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y dilyw ar fyd y rhai anwir;

6. A chan droi dinasoedd Sodom a Gomorra yn lludw, a'u damniodd hwy â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol;

7. Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwiriaid:

8. (Canys y cyfiawn hwnnw yn trigo yn eu mysg hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd hwynt:)

9. Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni:

10. Ac yn bennaf y rhai sydd yn rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth. Rhyfygus ydynt, cyndyn; nid ydynt yn arswydo cablu urddas:

11. Lle nid yw'r angylion, y rhai sydd fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt gerbron yr Arglwydd.

12. Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymol anianol, y rhai a wnaed i'w dal ac i'w difetha, a gablant y pethau ni wyddant oddi wrthynt, ac a ddifethir yn eu llygredigaeth eu hunain;

13. Ac a dderbyniant gyflog anghyfiawnder, a hwy yn cyfrif moethau beunydd yn hyfrydwch. Brychau a meflau ydynt, yn ymddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyda chwi;

14. A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod; yn llithio eneidiau anwadal: a chanddynt galon wedi ymgynefino â chybydd-dra; plant y felltith:

15. Wedi gadael y ffordd union, hwy a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam mab Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder;

16. Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: asen fud arferol â'r iau, gan ddywedyd â llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y proffwyd.

17. Y rhai hyn ydynt ffynhonnau di-ddwfr, cymylau a yrrid gan dymestl; i'r rhai y mae niwl tywyllwch yng nghadw yn dragywydd.

18. Canys gan ddywedyd chwyddedig eiriau gorwagedd, y maent hwy, trwy chwantau'r cnawd, a thrythyllwch, yn llithio'r rhai a ddianghasai yn gwbl oddi wrth y rhai sydd yn byw ar gyfeiliorn.

19. Gan addo rhyddid iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan bwy bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.

20. Canys os, wedi iddynt ddianc oddi wrth halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Grist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pethau hyn, a'u gorchfygu; aeth diwedd y rhai hynny yn waeth na'u dechreuad.

21. Canys gwell fuasai iddynt fod heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag, wedi ei hadnabod, troi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd yr hwn a draddodwyd iddynt.

22. Eithr digwyddodd iddynt yn ôl y wir ddihareb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun; a'r hwch wedi ei golchi, i'w hymdreiglfa yn y dom.