Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 1:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a'n Hachubwr Iesu Grist:

2. Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni,

3. Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a'n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd:

4. Trwy'r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy'r rhai hyn y byddech gyfranogion o'r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant.

5. A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth;

6. Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb;

7. Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad.

8. Canys os yw'r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist.

9. Oblegid yr hwn nid yw'r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt.

10. Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth:

11. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist.

12. Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffau bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol.

13. Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi;

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 1