Hen Destament

Testament Newydd

2 Ioan 1:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw'r twyllwr a'r anghrist.

8. Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.

9. Pob un a'r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae'r Tad a'r Mab ganddo.

10. Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho:

Darllenwch bennod gyflawn 2 Ioan 1