Hen Destament

Testament Newydd

2 Ioan 1:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a'i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd;

2. Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd.

3. Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.

4. Bu lawen iawn gennyf i mi gael o'th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad.

5. Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu ohonom ein gilydd.

6. A hyn yw'r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw'r gorchymyn; Megis y clywsoch o'r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo.

7. Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i'r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw'r twyllwr a'r anghrist.

8. Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Ioan 1