8. Ac y mae Duw yn abl i beri i bob gras fod yn helaeth tuag atoch chwi; fel y byddoch chwi ym mhob peth, bob amser, a chennych bob digonoldeb yn helaeth i bob gweithred dda:
9. (Megis yr ysgrifennwyd, Efe a wasgarodd; rhoddodd i'r tlodion: ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.
10. A'r hwn sydd yn rhoddi had i'r heuwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich had, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder;)
11. Wedi eich cyfoethogi ym mhob peth i bob haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Dduw.
12. Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn unig yn cyflawni diffygion y saint, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw;
13. Gan eu bod, trwy brofiad y weinidogaeth hon, yn gogoneddu Duw oherwydd darostyngiad eich cyffes chwi i efengyl Crist, ac oherwydd haelioni eich cyfraniad iddynt hwy, ac i bawb;
14. A thrwy eu gweddi hwythau drosoch chwi, y rhai ydynt yn hiraethu amdanoch chwi, am y rhagorol ras Duw yr hwn sydd ynoch.
15. Ac i Dduw y byddo'r diolch am ei ddawn anhraethol.