Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 9:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys tuag at am y weinidogaeth i'r saint, afraid yw i mi ysgrifennu atoch:

2. Oherwydd mi a adwaen barodrwydd eich meddwl chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid amdanoch chwi, fod Achaia wedi ymbaratoi er y llynedd; a'r sêl a ddaeth oddi wrthych chwi a anogodd lawer iawn.

3. A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bost ni amdanoch chwi yn ofer yn y rhan hon; fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi:

4. Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyda mi, a'ch cael chwi yn amharod, bod i ni, (ni ddywedaf, chwi,) gael cywilydd yn y fost hyderus yma.

5. Mi a dybiais gan hynny yn angenrheidiol atolygu i'r brodyr, ar iddynt ddyfod o'r blaen atoch, a rhagddarparu eich bendith chwi yr hon a fynegwyd; fel y byddo parod megis bendith, ac nid megis o gybydd-dra.

6. A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth.

7. Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 9