Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13

Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr ydym ni hefyd yn hysbysu i chwi, frodyr, y gras Duw a roddwyd yn eglwysi Macedonia;

2. Ddarfod, mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.

3. Oblegid yn ôl eu gallu, yr wyf fi yn dyst, ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar ohonynt eu hunain;

4. Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.

5. A hyn a wnaethant, nid fel yr oeddem ni yn gobeithio, ond hwy a'u rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau trwy ewyllys Duw:

6. Fel y dymunasom ni ar Titus, megis y dechreuasai efe o'r blaen, felly hefyd orffen ohono yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.

7. Eithr fel yr ydych ym mhob peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag atom ni; edrychwch ar fod ohonoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.

8. Nid trwy orchymyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.

9. Canys chwi a adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau'n gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei dlodi ef.

10. Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn: canys hyn sydd dda i chwi, y rhai a ragddechreuasoch, nid yn unig wneuthur, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.

11. Ac yn awr gorffennwch wneuthur hefyd; fel megis ag yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly y byddo i gwblhau hefyd o'r hyn sydd gennych.

12. Canys os bydd parodrwydd meddwl o'r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan un, y mae yn gymeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.

13. Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau;

14. Eithr o gymhwystra: y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwithau; fel y byddo cymhwystra:

15. Megis y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo weddill; ac a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.

16. Eithr i Dduw y byddo'r diolch, yr hwn a roddodd yr un diwydrwydd trosoch yng nghalon Titus.

17. Oblegid yn wir efe a dderbyniodd y dymuniad; a chan fod yn fwy diwyd, a aeth atoch o'i wirfodd ei hun.

18. Ni a anfonasom hefyd gydag ef y brawd, yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy'r holl eglwysi;

19. Ac nid hynny yn unig, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni â'r gras hwn, yr hwn a wasanaethir gennym er gogoniant i'r Arglwydd ei hun, ac i amlygu parodrwydd eich meddwl chwi:

20. Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd yma, yr hwn a wasanaethir gennym:

21. Y rhai ydym yn rhagddarpar pethau onest, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg dynion.

22. Ac ni a anfonasom gyda hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennyf ynoch.

23. Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a chyd-weithydd tuag atoch chwi; neu am ein brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.

24. Am hynny dangoswch iddynt hwy hysbysrwydd o'ch cariad, ac o'n bost ninnau amdanoch chwi, yng ngolwg yr eglwysi.