Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 5:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef.

10. Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.

11. A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y'n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.

12. Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o'n plegid ni, fel y caffoch beth i ateb yn erbyn y rhai sydd yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.

13. Canys pa un bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw yr ydym; ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi yr ydym.

14. Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni, gan farnu ohonom hyn; os bu un farw dros bawb, yna meirw oedd pawb:

15. Ac efe a fu farw dros bawb, fel na byddai i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw drostynt, ac a gyfodwyd.

16. Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom neb yn ôl y cnawd: ac os buom hefyd yn adnabod Crist yn ôl y cnawd, eto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.

17. Gan hynny od oes neb yng Nghrist, y mae efe yn greadur newydd: yr hen bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.

18. A phob peth sydd o Dduw, yr hwn a'n cymododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymod;

19. Sef, bod Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau; ac wedi gosod ynom ni air y cymod.

20. Am hynny yr ydym ni yn genhadau dros Grist, megis pe byddai Duw yn deisyf arnoch trwom ni: yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw.

21. Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod drosom ni; fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 5