Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 5:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.

2. Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n tŷ sydd o'r nef:

3. Os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y'n ceir.

4. Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon ydym yn ocheneidio, yn llwythog: yn yr hyn nid ŷm yn chwennych ein diosg, ond ein harwisgo, fel y llyncer yr hyn sydd farwol gan fywyd.

5. A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Ysbryd.

6. Am hynny yr ydym yn hyderus bob amser, ac yn gwybod, tra ydym yn gartrefol yn y corff, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd:

7. Canys wrth ffydd yr ydym yn rhodio, ac nid wrth olwg.

8. Ond yr ydym yn hy, ac yn gweled yn dda yn hytrach fod oddi cartref o'r corff, a chartrefu gyda'r Arglwydd.

9. Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa un bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymeradwy ganddo ef.

10. Canys rhaid i ni oll ymddangos gerbron brawdle Crist; fel y derbynio pob un y pethau a wnaethpwyd yn y corff, yn ôl yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg.

11. A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion: eithr i Dduw y'n gwnaed yn hysbys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hysbys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 5