Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 4:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym yn fyw, yn wastad i farwolaeth er mwyn Iesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Iesu yn ein marwol gnawd ni.

12. Felly y mae angau yn gweithio ynom ni, ac einioes ynoch chwithau.

13. A chan fod gennym yr un ysbryd ffydd, yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru;

14. Gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd trwy Iesu, a'n gosod gerbron gyda chwi.

15. Canys pob peth sydd er eich mwyn chwi, fel y byddo i ras wedi amlhau, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.

16. Oherwydd paham nid ydym yn pallu; eithr er llygru ein dyn oddi allan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.

17. Canys ein byr ysgafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni;

18. Tra na byddom yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 4