4. Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.
5. Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6. Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.
7. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a'i ddiddanu; rhag llyncu'r cyfryw gan ormod tristwch.
8. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.
9. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.
10. I'r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;
11. Fel na'n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
12. Eithr gwedi i mi ddyfod i Droas i bregethu efengyl Crist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,
13. Ni chefais lonydd yn fy ysbryd, am na chefais Titus fy mrawd: eithr gan ganu'n iach iddynt, mi a euthum ymaith i Facedonia.