Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 2:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac mi a ysgrifennais hyn yma atoch, fel, pan ddelwn, na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau; gan hyderu amdanoch oll, fod fy llawenydd i yn llawenydd i chwi oll.

4. Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon, yr ysgrifennais atoch â dagrau lawer; nid fel y'ch tristeid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennyf yn helaethach tuag atoch chwi.

5. Ac os gwnaeth neb dristáu, ni wnaeth efe i mi dristáu, ond o ran; rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.

6. Digon i'r cyfryw ddyn y cerydd yma, a ddaeth oddi wrth laweroedd.

7. Yn gymaint ag y dylech, yn y gwrthwyneb, yn hytrach faddau iddo, a'i ddiddanu; rhag llyncu'r cyfryw gan ormod tristwch.

8. Am hynny yr ydwyf yn atolwg i chwi gadarnhau eich cariad tuag ato ef.

9. Canys er mwyn hyn hefyd yr ysgrifennais, fel y gwybyddwn brawf ohonoch, a ydych ufudd ym mhob peth.

10. I'r hwn yr ydych yn maddau dim iddo, yr wyf finnau: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi y maddeuais, yng ngolwg Crist;

11. Fel na'n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 2