Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 12:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Arwyddion apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pob amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol.

13. Canys beth yw'r hyn y buoch chwi yn ôl amdano, mwy na'r eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? maddeuwch i mi hyn o gam.

14. Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch; ac ni byddaf ormesol arnoch: canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwychwi: canys ni ddylai'r plant gasglu trysor i'r rhieni, ond y rhieni i'r plant.

15. A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac a ymdreuliaf, dros eich eneidiau chwi, er fy mod yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.

16. Eithr bid, ni phwysais i arnoch: ond, gan fod yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi trwy ddichell.

17. A wneuthum i elw ohonoch chwi trwy neb o'r rhai a ddanfonais atoch?

18. Mi a ddeisyfais ar Titus, a chydag ef mi a anfonais frawd. A elwodd Titus ddim arnoch? onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? onid yn yr un llwybrau?

19. Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? gerbron Duw yng Nghrist yr ydym yn llefaru; a phob peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.

20. Canys ofni yr wyf, rhag, pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gyfryw rai ag a fynnwn, a'm cael innau i chwithau yn gyfryw ag nis mynnech: rhag bod cynhennau, cenfigennau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustyngau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau:

21. Rhag pan ddelwyf drachefn, fod i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eisoes, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 12