Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:14-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ac nid rhyfedd: canys y mae Satan yntau yn ymrithio yn angel goleuni.

15. Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weinidogion ef fel gweinidogion cyfiawnder; y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.

16. Trachefn meddaf, Na thybied neb fy mod i yn ffôl: os amgen, eto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finnau hefyd ymffrostio ychydig.

17. Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus.

18. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.

19. Canys yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fod eich hunain yn synhwyrol.

20. Canys yr ydych yn goddef, os bydd un i'ch caethiwo, os bydd un i'ch llwyr fwyta, os bydd un yn cymryd gennych, os bydd un yn ymddyrchafu, os bydd un yn eich taro chwi ar eich wyneb.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11