Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 10:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A myfi Paul wyf fy hun yn atolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn yn bresennol wyf wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hy arnoch.

2. Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hy â'r hyder yr wyf yn meddwl bod tuag at rai, y sydd yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio yn ôl y cnawd.

3. Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd:

4. (Canys arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr;)

5. Gan fwrw dychmygion i lawr, a phob uchder a'r sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Duw, a chan gaethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist;

6. Ac yn barod gennym ddial ar bob anufudd-dod, pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.

7. Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? Os ymddiried neb ynddo ei hun, ei fod ef yn eiddo Crist, meddylied hyn drachefn ohono ei hun, megis ag y mae efe yn eiddo Crist, felly ein bod ninnau hefyd yn eiddo Crist.

8. Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni'm cywilyddid:

9. Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.

10. Oblegid y llythyrau yn wir (meddant) sydd drymion a chryfion; eithr presenoldeb y corff sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 10