1. Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, gyda'r holl seintiau y rhai sydd yn holl Achaia:
2. Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3. Bendigedig fyddo Duw, a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, Tad y trugareddau, a Duw pob diddanwch;
4. Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu'r rhai sydd mewn dim gorthrymder, trwy'r diddanwch â'r hwn y'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.
5. Oblegid fel y mae dioddefiadau Crist yn amlhau ynom ni; felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau.
6. A pha un bynnag ai ein gorthrymu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae, yr hon a weithir trwy ymaros dan yr un dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef; ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch a iachawdwriaeth i chwi y mae hynny.
7. Ac y mae ein gobaith yn sicr amdanoch; gan i ni wybod, mai megis yr ydych yn gyfranogion o'r dioddefiadau, felly y byddwch hefyd o'r diddanwch.
8. Canys ni fynnem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr uwchben ein gallu, hyd onid oeddem yn amau cael byw hefyd.
9. Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angau, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi'r meirw:
10. Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angau, ac sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio y gwared ni hefyd rhag llaw:
11. A chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni oherwydd llawer, y rhodder diolch gan lawer drosom.
12. Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi.
13. Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd;
14. Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu.