Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 6:3-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Od oes neb yn dysgu yn amgenach, ac heb gytuno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â'r athrawiaeth sydd yn ôl duwioldeb;

4. Chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch cwestiynau, ac ymryson ynghylch geiriau; o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau, yn dyfod,

5. Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fod y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.

6. Ond elw mawr yw duwioldeb gyda bodlonrwydd.

7. Canys ni ddygasom ni ddim i'r byd, ac eglur yw na allwn ddwyn dim allan chwaith.

8. Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.

9. Ond y rhai sydd yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sydd yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

10. Canys gwreiddyn pob drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.

11. Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn; a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, amynedd, addfwyndra.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 6