5. Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.
6. Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.
7. A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.
8. Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.
9. Na ddewiser yn weddw un a fo dan drigeinmlwydd oed, yr hon fu wraig i un gŵr,
10. Yn dda ei gair am weithredoedd da; os dygodd hi blant i fyny, os bu letygar, o golchodd hi draed y saint, o chynorthwyodd hi y rhai cystuddiol, o dilynodd hi bob gorchwyl da.
11. Eithr gwrthod y gweddwon ieuainc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Crist, priodi a fynnant;
12. Gan gael barnedigaeth, am iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.
13. A hefyd y maent yn dysgu bod yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ; ac nid yn segur yn unig, ond hefyd yn wag-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymwys.
14. Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrthwynebwr i ddifenwi.
15. Canys y mae rhai eisoes wedi gŵyro ar ôl Satan.
16. Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon wragedd gweddwon, cynorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr eglwys; fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.