1. Na cherydda hynafgwr, eithr cynghora ef megis tad; a'r rhai ieuainc, megis brodyr;
2. Yr hen wragedd, megis mamau; y rhai ieuainc, megis chwiorydd, gyda phob purdeb.
3. Anrhydedda'r gwragedd gweddwon, y rhai sydd wir weddwon.
4. Eithr o bydd un weddw ac iddi blant neu ŵyrion, dysgant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu'r pwyth i'w rhieni: canys hynny sydd dda a chymeradwy gerbron Duw.
5. Eithr yr hon sydd wir weddw ac unig, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau a gweddïau nos a dydd.
6. Ond yr hon sydd drythyll, a fu farw, er ei bod yn fyw.
7. A gorchymyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyhoedd.
8. Ac od oes neb heb ddarbod dros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di‐ffydd.