5. Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.
6. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau'r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.
7. Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb.
8. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.
9. Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad.
10. Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid.
11. Y pethau hyn gorchymyn a dysg.
12. Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb.
13. Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllen, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.