Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 4:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac y mae'r Ysbryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diwethaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysbrydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid;

2. Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haearn poeth;

3. Yn gwahardd priodi, ac yn erchi ymatal oddi wrth fwydydd, y rhai a greodd Duw i'w derbyn, trwy roddi diolch, gan y ffyddloniaid a'r rhai a adwaenant y gwirionedd.

4. Oblegid y mae pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid oes dim i'w wrthod, os cymerir trwy dalu diolch.

5. Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw a gweddi.

6. Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a fyddi weinidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yng ngeiriau'r ffydd ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.

7. Eithr gad heibio halogedig a gwrachïaidd chwedlau, ac ymarfer dy hun i dduwioldeb.

8. Canys i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd y sydd yr awron, ac o'r hwn a fydd.

9. Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad.

10. Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwaradwyddo, oherwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw Achubydd pob dyn, yn enwedig y ffyddloniaid.

11. Y pethau hyn gorchymyn a dysg.

12. Na ddiystyred neb dy ieuenctid di; eithr bydd yn siampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn ysbryd, mewn ffydd, mewn purdeb.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 4