Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 2:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Yr un modd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd; nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr;

10. Ond, (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffesu duwioldeb,) â gweithredoedd da.

11. Dysged gwraig mewn distawrwydd gyda phob gostyngeiddrwydd.

12. Ond nid wyf yn cenhadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bod mewn distawrwydd.

13. Canys Adda a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.

14. Ac nid Adda a dwyllwyd; eithr y wraig, wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.

15. Eto cadwedig fydd wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 2