Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 2:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Dros frenhinoedd, a phawb sydd mewn goruchafiaeth; fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol mewn pob duwioldeb ac onestrwydd.

3. Canys hyn sydd dda a chymeradwy gerbron Duw ein Ceidwad;

4. Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig, a'u dyfod i wybodaeth y gwirionedd.

5. Canys un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu;

6. Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, i'w dystiolaethu yn yr amseroedd priod.

7. I'r hyn y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng Nghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd;) yn athro'r Cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.

8. Am hynny yr wyf yn ewyllysio i'r gwŷr weddïo ym mhob man, gan ddyrchafu dwylo sanctaidd, heb na dicter na dadl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 2