Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 5:9-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10. Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.

11. Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.

12. Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio;

13. A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.

14. Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15. Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.

16. Byddwch lawen yn wastadol.

17. Gweddïwch yn ddi-baid.

18. Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.

19. Na ddiffoddwch yr Ysbryd.

20. Na ddirmygwch broffwydoliaethau.

21. Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.

22. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.

23. A gwir Dduw'r tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff, yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.

24. Ffyddlon yw'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.

25. O frodyr, gweddïwch drosom.

26. Anerchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.

27. Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythyr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.

28. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Amen.Y cyntaf at y Thesaloniaid a ysgrifennwyd o Athen.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 5