Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 5:4-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ond chwychwi, frodyr, nid ydych mewn tywyllwch, fel y goddiweddo'r dydd hwnnw chwi megis lleidr.

5. Chwychwi oll, plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o'r nos, nac o'r tywyllwch.

6. Am hynny na chysgwn, fel rhai eraill; eithr gwyliwn, a byddwn sobr.

7. Canys y rhai a gysgant, y nos y cysgant; a'r rhai a feddwant, y nos y meddwant.

8. Eithr nyni, gan ein bod o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisgo â dwyfronneg ffydd a chariad, ac â gobaith iachawdwriaeth yn lle helm.

9. Canys nid apwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iachawdwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist,

10. Yr hwn a fu farw drosom; fel pa un bynnag a wnelom ai gwylied ai cysgu, y byddom fyw gydag ef.

11. Oherwydd paham cynghorwch eich gilydd, ac adeiledwch bob un eich gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.

12. Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sydd yn llafurio yn eich mysg, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio;

13. A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad, er mwyn eu gwaith. Byddwch dangnefeddus yn eich plith eich hunain.

14. Ond yr ydym yn deisyf arnoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.

15. Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tuag at eich gilydd, a thuag at bawb.

16. Byddwch lawen yn wastadol.

17. Gweddïwch yn ddi-baid.

18. Ym mhob dim diolchwch: canys hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu tuag atoch chwi.

19. Na ddiffoddwch yr Ysbryd.

20. Na ddirmygwch broffwydoliaethau.

21. Profwch bob peth: deliwch yr hyn sydd dda.

22. Ymgedwch rhag pob rhith drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 5